Milltir yr awr
Dyma fesuriad o gyflymder a ddefnyddir fel mater o drefn mewn gwledydd nad ydynt yn defnyddio'r system fetrig ar gyfer trafnidiaeth fel Unol Daleithiau America. Mae'r Deyrnas Unedig hefyd yn defnyddio hwn ar y ffyrdd er bod y system fetrig wedi'i mabwysiadu'n swyddogol. Rhoddir terfynau cyflymder ar y ffyrdd fesul milltir yr awr a gaiff ei dalfyrru fel mya neu mi/a.