Dyma fesuriad o gyflymder a ddefnyddir fel mater o drefn mewn gwledydd nad ydynt yn defnyddio'r system fetrig ar gyfer trafnidiaeth fel Unol Daleithiau America. Mae'r Deyrnas Unedig hefyd yn defnyddio hwn ar y ffyrdd er bod y system fetrig wedi'i mabwysiadu'n swyddogol. Rhoddir terfynau cyflymder ar y ffyrdd fesul milltir yr awr a gaiff ei dalfyrru fel mya neu mi/a.
Mae notiau'n fesuriad o gyflymder ac mae un not yn gyfystyr ag un filltir fôr yr awr. Mae'r uned hon yn cael ei defnyddio fel mater o drefn yn y diwydiant morwrol ac awyrennau. Mae milltiroedd môr gwahanol wedi'u defnyddio dros y blynyddoedd ac o ganlyniad, felly hefyd amryw notiau gwahanol. Fodd bynnag, rydym wedi seilio ein cyfrifiannell notiau ar y filltir fôr ryngwladol a ddefnyddir yn gyffredin heddiw ledled y byd.